English
Am dros 30 mlynedd mae Tyddyn Môn wedi bod yn cefnogi oedolion ag anableddau dysgu ar Ynys Môn, trwy roi cefnogaeth, cyfarwyddyd, cyfleoedd gwaith a hyfforddiant iddynt, i sicrhau eu bod yn byw bywydau hapus, llawn ac annibynnol.

Ein Nodau a Gwerthoedd

Nod Tyddyn Môn yw darparu gwasanaeth sy'n gyfeillgar, yn broffesiynol ac yn effeithiol. Y diben pennaf yw sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu neu grwpiau difreintiedig yn mwynhau ffordd o fyw pwrpasol, urddasol a hapus.

Fel elusen ac sefydliad di-elw rydym bob amser yn rhoi'r bobl yr ydym yn eu cefnogi yn ganol ein busnes a'n penderfyniadau, mae hyn yn sicrhau y gallwn ddarparu'r gefnogaeth orau bosibl i'n defnyddwyr gwasanaeth, tra'n eu hannog i wneud eu penderfyniadau eu hunain, a thrwy barchu eu hawliau unigol, i sicrhau eu bod yn gallu byw eu bywydau i'w llawn botensial.

Gwirfoddolwyr

Mae ein gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl ag anabledd dysgu. Trwy neilltuo eu hamser, egni a gwybodaeth maent yn dod â brwdfrydedd ac ymroddiad i Tyddyn Môn sy'n helpu i newid bywydau'r bobl yr ydym yn eu cefnogi bob dydd.