Mae Tŷ Hendy wedi ei leoli ar Ynys Môn, ar fferm 35 erw sy'n cynnig tawelwch a llonyddwch yng nghanol cefn gwlad Cymru.
Mae gwyliau yn Tyddyn Môn yn berffaith i’r teulu cyfan, rydym yn dim ond 10 munud i ffwrdd oddi wrth Traeth Lligwy, taith fer i ffwrdd oddi wrth mynyddoedd Eryri ac mae ein cartref eang yn cynnig digon o le ar gyfer y teulu cyfan, yn cysgu hyd at 16 o bobl, neu ddau fflat sy'n cysgu 7 neu 8.
Mae ein cartref gwyliau hunanarlwyo newydd wedi ei ffitio allan i safon uchel, gyda dodrefn sydd yn ategu y tŷ yn berffaith. Mae'r ystafelloedd yn fawr ac yn chyfforddus gyda popeth rydych ei angen i wneud eich arhosiad yn berffaith, gydag ystafelloedd ymolchi en-suite mewn 6 o'n 8 ystafell wely. Mae gennym hefyd ystafell wely sydd wedi eu haddasu'n arbennig ar gyfer pobl gyda anableddau.
Mwynhewch yr amrywiaeth o weithgareddau sydd gennym ar y safle, gan gynnwys crochenwaith, crefftau, mannau chwarae i blant, anifeiliaid a caffi a thŷ crempog sy’n gweini bwyd blasus drwy gydol yr haf.