Mae ein canolfan hyfforddiant a fferm 35 erw yn darparu cymorth a hyfforddiant dydd i oedolion ag anableddau dysgu. Rydym hefyd ar agor i'r cyhoedd gydag amrywiaeth o weithgareddau ar y safle. Mae ein fferm hefyd yn lleoliad ein llety Gwyliau, darganfyddwch fwy am wyliau yn Nhyddyn Môn yma.
Amseroedd agor
Amseroedd agor fferm i'r cyhoedd yw dydd Mawrth i ddydd Sadwrn rhwng 10yb a 4yp.
Gweithgareddau
- Mae'r gweithgareddau ar y fferm yn cynnwys caffi a thŷ crempog sy'n gwasanaethu amrywiaeth o fwydydd a diod blasus.
- Lle chwarae meddal a maes chwarae antur i blant
- Gardd synhwyraidd gerddorol.
- Teithiau cerdded tawel ac ardaloedd picnic.
- Dosbarthiadau Crochenwaith a Llosgi Coed (angen archebu)
Tyddyn Môn

