Staff Tymhorol ar gyfer ein Tŷ Crempog
Oriau Amrywiol ar gael. Mae dyddiau a sifftiau ar gael rhwng dyddiau Mawrth a Sadwrn.
Mae Tyddyn Môn yn chwilio am rywun i ymuno â’n tîm yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf yn Tŷ Crempog, ein caffi crempogau prysur. Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn brwdfrydig sy’n gallu cymell ei hun i ymuno â’n tîm ehangol yn ein Tŷ Crempog poblogaidd.
Mae Tŷ Crempog yn darparu profiad gwaith i oedolion gydag anableddau dysgu.Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn y gegin ac yn gweini’r cyhoedd gan roi cefnogaeth i oedolion gydag anableddau dysgu yn y tŷ crempog.
Bydd y prif ddyletswyddau’n cynnwys:
- Cefnogi oedolion gydag anabledd dysgu, gan eu hannog i ddatblygu eu sgiliau yn Tŷ Crempog.
- Paratoi a gweini bwyd, gwneud te a choffi.
- Ymdrin ag arian parod, cyfri arian a chadw cofnodion ariannol o drafodion.
- Glanhau pob ardal yn y caffi gan sicrhau eu bod yn ddiogel a hylan bob amser.
- Monitro stoc, gwastraff a dyddiadau ‘defnyddio erbyn’.
- Ymateb yn brydlon ac yn broffesiynol i unrhyw adborth, sylwadau neu gwynion gan gwsmeriaid.
- Dilyn a chydymffurfio â’r holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol, yn arbennig ein polisïau Diogelu a gofynion Iechyd a Diogelwch a Hylendid Bwyd.
- Ymgymryd â dyletswyddau eraill fel sy’n rhesymol ofynnol gan y rheolwr llinell.
I gyflawni’r swydd hon yn llwyddiannus, bydd angen i chi:
- Allu cyfathrebu â phobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd a gydag ystod eang o alluoedd.
- Bod yn hynaws ac empathig.
- Ymrwymo i gyfleoedd cyfartal.
- Cyflwyno eich hun yn dda.
- Bod yn hyblyg i weithio ar benwythnosau a rhai gwyliau banc yn ôl y gofyn.
- Bod yn berson cyfeillgar a chymdeithasol.
- Gallu gweithio dan bwysau ac at derfynau amser gan weithio’n dda ar liwt eich hun yn ogystal â fel rhan o dîm.
- Bod yn berson brwdfrydig a gweithgar.
Profiad a sgiliau dymunol:
- Profiad mewn rôl debyg e.e. caffi, gweini, gwaith bar, gwaith bwyty, arlwyo.
- Profiad o weithio â phobl gydag anableddau dysgu neu oedolion bregus eraill.
- Gallu cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Trwydded yrru lân.
Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar gyfer y rôl.
Cyfradd fesul awr- Yn cydymffurfio â’r Cyflog Byw Cenedlaethol
I wneud cais anfonwch eich CV at Michelle Owen chelle.tyddynmon@btconnect.com neu ffoniwch 01248 410580 est. 3 am ffurflen gais neu os oes gennych unrhyw ymholiadau.